Dydd Santes Dwynwen - Halen Môn

Dydd Santes Dwynwen

by | Ion 11, 2023

Gall diwedd mis Ionawr fod ychydig yn llwm – tywyll ac oer, gyda gŵyl y Nadolig y tu ôl i ni. Braf felly yw’r traddodiad Cymreig megis llygedyn o olau ar ddiwedd mis Ionawr. Ar y 25ain o’r mis bob blwyddyn, mae pobl ledled Cymru yn dathlu Diwrnod Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru.

Yn ôl y chwedl, Dwynwen oedd yr harddaf o bedwar ar hugain o ferched y brenin Brychan Brycheiniog. Syrthiodd mewn cariad â Maelon ond roedd ei thad eisoes wedi trefnu iddi briodi rhywun arall. Gweddïodd ar i Dduw i’w helpu i anghofio Maelon. Ymwelodd angel a hi yn ei chwsg a rhoddodd diod arbennig iddi er mwyn dileu ei chof o’i theimladau am Maelon. Neilltuodd Dwynwen ei bywyd i Dduw, sefydlodd cwfaint ar ynys Llanddwyn a gweddïodd y byddai cariadon yn cael eu gwarchod.

Mae olion eglwys Dwynwen ynghyd â’i ffynnon hynafol i’w gweld o hyd ar yr ynys fechan. Mae rhai yn credu fod y ffynnon yn gartref i bysgod sanctaidd a all ragweld a fydd perthnasoedd cyplau yn llwyddo. Os ydych yn ddigon ffodus i weld pysgodyn yn symud wrth ymweld y ffynnon, mae’n debyg ei fod yn arwydd bod eich gŵr yn ffyddlon.

Ni allwn warantu’r pwerau, ond gallwn dystio am harddwch anhygoel Ynys Llanddwyn – un o’n hoff fannau yn y byd, ac mae’r 25ain Ionawr yn ddyddiad cystal ag unrhyw un i ddisgyn mewn cariad ag Ynys Môn.

0
Your basket