Dydych chi byth yn debygol o gael syched yn Pant Du.

Yn cuddio yn Nyffryn Nantlle, yng nghanol prydferthwch cadwyn mynyddoedd Eryri, mae Richard, Iola, a’u tîm yn mynd ati yn dawel i fragu seidr eithriadol o flasus, casglu dŵr ffynnon, a thyfu rhai o’r unig winwydd ar gyfer gwin yng Nghymru.

Dyn camera wedi ennill BAFTA wrth ei grefft (arddangosir ei gwobr nodweddiadol yng nghaffi trwyddedig y winllan), plannodd Richard a’i wraig Iola eu gwinllan a pherllan yn 2007, ac yn 2010 wnaethon nhw gynhyrchu eu potel gyntaf o win Pant Du.

Ers hynna, maent wedi mynd o nerth i nerth, yn symud i fyw i’r winllan, yn arwain teithiau a sesiynau blasu yn rheolaidd, ac yn denu pawb o bartïon cywennod i newyddiadurwyr, Jan Morris i Bryn Terfel. Mae teulu a ffrindiau yn pigo a phrosesu’r grawnwin pan maent yn barod, ac mae’r teulu yn teithio i ddewis poteli arall yn gymhares i’w rhai eu hunain ar gyfer eu sesiynau blasu enwog.

Mae Pant Du mwy neu heb yn arbenigwyr mewn afalau, efo diddordeb arbennig mewn mathau prin ac mewn peryg, ac yn magu rhai newydd, sydd yn meddwl bod eu sudd ac yn enwedig eu seidr yn ennill nifer o wobrau.

Wnaethom ni bigo draw (yn naturiol) am wydriad o rywbeth oer, ac aros am frechdanau wedi’u tostio, a hanes andros o ddifyr gan Richard, am sut wnaethon nhw ddarganfod y ffynnon dŵr. Roedd yn dasg anodd yn cymryd 13 diwrnod o dyllu trafferthus cyn iddynt ffeindio’r ffynnon. Roedd yn wir werth yr ymdrech – mae’r dŵr yn ymhidlo drwy graig Cyn-Cambria (wedi ffurfio dros 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl), dyna’r rheswm am yr holl drafferth i’w ganfod, ond hefyd pam fod ganddo flas mor bur a chytbwys.

Rydym ni wir yn awgrymu ymweliad.

Bottles_Pant_Du

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping