Deugain Mlynedd mewn Llyfrau Coginio - Halen Môn

Header_booksYn ddiweddar, gofynnodd ffrind i mi sydd yn ysgrifennu llyfr am restr o lyfrau coginio sydd wedi bod yn ddylanwadol yn fy mywyd. Wrth i mi fodio trwy nifer o silffoedd trymlwythog, sylweddolais faint mae’r llyfrau hyn wedi dylanwadu ar sut mae fy nheulu a minnau wedi byw dros y 40 mlynedd diwethaf. Mae’r tudalennau sydd wedi staenio gyda siytni, toes bara a gwin coch yn dyst i hyn. Rwy’n hoffi cofnodi pryd byddaf yn gwneud rysáit hefyd, felly mae gan lawer ohonynt nodiadau wrth eu hymyl gan fanylu’r achlysuron pan gawsant eu coginio yn ogystal ag addasiadau dwi wedi gwneud ar gyfer y AGA. Yr wyf yn edrych ymlaen at weld pa ogwyddion a fydd dros y deugain mlynedd i ddod.

COOKING FROM SCRATCH, Kathleen le Riche, Faber and Faber, 1952. Daeth y llyfr yma o’m fam yng nghyfraith a oedd yn brwydro gyda’i choginio ac mae’n amlwg ei bod wedi dod ymlaen yn dda gyda’r llyfr ysgafn ac wedi’u cynllunio i helpu cogyddion nerfus heb fod yn nawddoglyd.

JAMS, PICKLES AND CHUTNEYS, David and Rose Mabey, Penguin 1975. Llyfr o’n dyddiau myfyrwyr, mae’n gwneud y gorau o’r hyn yr oeddem yn pigo (doedd dim ‘fforio’ yn y dyddiau hynny) gan gynnwys ryseitiau ar gyfer allweddau Mair wedi piclo a chipolwg hyfryd i fywydau’r awduron.

A TASTE OF THE COUNTRY, Pamela Westland, Penguin, 1976. Rhoddwyd hwn i mi gan fy nhad yng nghyfraith ac mae wedi cael defnydd da byth ers hynny. Mae ynddo bopeth o gacennau i gordialau ac mae’n llyfr yr wyf yn dal i ddefnyddio.

Bottled_plums

SUMMER COOKING, Elizabeth David, Penguin 1978. Gallai wedi bod yn unrhyw un o’i llyfrau ond cafodd hwn defnydd arbennig o dda tra oeddem ar wyliau yn Ffrainc gan ein galluogi i wneud y mwyaf o gynhwysion lleol mewn ceginau gite gydag offer gwael.

JANE GRIGSON’S FRUIT BOOK, Penguin 1983. Amhrisiadwy ar gyfer cadw a mwynhau’r ffrwyth o’n gardd a gwrychoedd.

THE AGA BOOK, Mary Berry, Aga-Rayburn, 1991. Roeddwn yn ffodus i fynd ar weithdy Aga gyda Mary Berry i ddysgu sut i ddefnyddio fy Aga newydd sbon a gefais wrth symud i’n tŷ presennol. Mae hi a’r llyfr yn hyfryd. Mae  wedi’i ysgrifennu’n dda gyda’r cyfan sydd angen ei wybod gan gynnwys ychydig o fanylion personol sydd yn cyfrannu at y pleser darllen.

EATING FOR BRITAIN, Simon Majumdar, John Murray 2010. Llyfr doniol sydd wedi’i ysgrifennu’n dda ac yn cynnwys rhai pobl sydd, ers hynny, wedi dod yn ffrindiau. Cymysgedd o naratif a ryseitiau. Perffaith.

Eating_for_Britain

PLENTY, Yotam Ottolenghi, Ebury Press, 2010. Rhoddwyd hwn i mi gan ffrind a ddaeth i aros. Roedd yn agoriad llygad llwyr i mewn i blasusau a chyfuniadau newydd yn ogystal â bod yn bleser i edrych arno.

THE POCKET BAKERY, Rose Prince, Weidendfeld and Nicolson, 2013. Llyfr hyfryd ac ysbrydoledig gyda rhai ryseitiau pobi gwych.

A MODERN WAY TO COOK, Anna Jones, 2015, Fourth Estate London. Hardd i edrych arno, ysgogol i ddefnyddio a blasus i’w fwyta.

0
Your basket