Mae ein Dŵr Mwg wedi bod yn creu tonnau ers ychydig flynyddoedd bellach, ond yr wythnos diwethaf roeddem yn hynod gyffrous i glywed ein bod wedi ennill gwobr am y ‘Cynhwysyn Gorau’ o’r Gwobrau Arloesedd Bwyd y Byd. Roedd y ffaith ei bod yn 100% naturiol wedi creu argraff ar y panel beirniadu, yn fwy cyson na chochi cynhwysyn eich hun a gallwch naill ai ychwanegu blas yn y cefndir neu blas dwys dân goelcerth yn dibynnu ar faint sy’n cael ei ychwanegu at ddysgl.
Da ni’n ei werthu i bawb o Marks and Spencer am gyfer ei dorthau surdoes i gwmni cyffug lleol, Matt a Ben, am eu melysion menynaidd, ynghyd â llu o gogyddion amlwg. Bu arloesedd yn rym gyrru ein cwmni ers degawdau ac mae’n wych cael hynny gydnabyddedig ar lwyfan byd.
Fodd bynnag, peidiwch â chymryd ein gair ni. Isod ceir ychydig o dystlythyrau gan gogyddion a oedd yn ddigon caredig i rannu eu cariad at y cynnyrch.
Ben Ford, cogydd a restauranteur
‘Un o’m darganfyddiadau mwyaf yn ddiweddar oedd y dŵr mwg y mae David yn ei gynhyrchu yn Halen Môn, mae ganddi orffeniad mwg meddal y gallai llawer o fwydydd a choctel elwa ohoni.
Mae David a minnau’n rhannu’r awch am fwg ac mae hon yn enghraifft wych o sut mae ei ymagwedd tuag at fywyd wedi agor y drws i’r ffordd ‘da ni’n edrych ar y bwydydd ‘da ni’n eu paratoi.
Fel cogydd sy’n defnyddio llawer o dân pren, mae’r blas hynny’n rhan fawr o’m bwyd. Dwi’n chwilio am ffyrdd newydd yn gyson o ddod â blasau bwydydd sydd wedi eu cochi’n naturiol dan do.’
Ed Smith, cogydd ac awdur On The Side
‘Dwi’n ffan fawr o ddŵr mwg derw Halen Môn. Mae’n elfen allweddol mewn dau rysáit yn fy llyfr, – fel rhan o ddresin salad, ac mewn ratatouille ‘llawn mwg’. Yn y ddau achos, mae’n ychwanegu dyfnder i’r prydau. Mae’n ansawdd na allwch ei gael heb fynd trwy’r broses cochi eich hun, sydd, wrth gwrs yn rhesymegol ac yn gymharol weinyddol drwm, yn enwedig ar gyfer y coginio cartref. Nid yw’n rhy llosgol na chwerw, sy’n drawiadol – gan fod cynfennau eraill sy’n cynnig blas cochi yn aml yn gwneud.
Ac os ydych chi’n ceisio cochi pethau yn y cartref, neu’n defnyddio gwn fwg, byddwch yn aml yn canfod bod y mwg yn annymunol, yn hytrach nag yn fuddiol.
Yn y bôn, mae dŵr mwg derw Halen Môn wedi dod yn ddefnyddiol a chyfiawn, i’w ychwanegu at fy mhantri fel saws Caerwrangon, Tabasco, olew sesame wedi ei dostio saws pysgod.’
Os ‘da chi wedi prynu potel ac yn ansicr o sut i’w ddefnyddio, rhowch gynnig ar yr adran rysáit Dŵr Mwg, gan gynnwys:
Risotto syml efo blas mwg
Galette Mwg Stilton, Corbwmpen + Theim
Cawl India Corn Mwg
Bara Planc Dŵr Mwg Golosg Hawdd