Neithiwr, fuom ni’n falch iawn i ennill Gwobr Busnes Cyfrifol gan Business in The Community Cymru. Mae’n meddwl lot i ni achos mae’n mynd i graidd gwerthoedd ein busnes.

Mae ein tîm yn ymrwymo i gynhyrchu ein cynnyrch mewn ffordd gynaliadwy. Wnaethom ni gychwyn ein busnes gan ein bod yn caru’r Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle rydym yn byw, felly mae’n gwneud synnwyr ein bod yn ymrwymo i rwystro llygredd. Am rŵan, a cyn belled ag ein bod yn bodoli, wnawn ni arolygu hyn er mwyn gwella yn gyson.

Rydym ni’n anelu i leihau ein hoel troed carbon. Bob blwyddyn. Rydym ni’n ailgylchu popeth posib, ac yn lleihau’r ffordd rydym ni’n cael ymadael â phethau gymaint â phosib lle nad yw hyn yn ymarferol. Mae David yn hoffi ail-ddefnyddio gymaint â phosib ar bethau sydd wedi dod i ben eu bywyd yn y gwaith adref (mae gennym ni hen danciau halen yn yr ardd, yn llety i bysgod aur).

Mae ein cynnyrch yn bodloni’r holl anghenion diogelwch bwyd, cyfreithiol a labelu sydd yn ddiflas ond hollbwysig. Rydym ni’n anelu i gadw ein safon gradd ‘A’ efo’r British Retail Consorium. Ein hethos yw masnachu mewn dim ond ffynonellau cynaliadwy a chynhyrchion wedi eu masnachu yn foesegol. Rydym ni hefyd wedi ein cymeradwyo gan y Soil Association. Rydym ni’n cefnogi defnydd technoleg sydd yn effeithlon o ran ynni, ag bob amser yn gwneud ymdrech i ddefnyddio llai o drydan.

Rydym ni’n ail-ddefnyddio ein cynhyrchion gwastraff fel ‘cyd-gynhyrchion’ lle bynnag mae’n bosib, ac wedi ennill gwobrau am ein defnydd dyfeisgar ohonynt. Mae ein dŵr distyll, er enghraifft, yn cael ei werthu i lanhau lensiau telesgop. Rydym ni wedi gosod paneli solar er mwyn gwneud yn fawr o’r haul hyfryd Cymraeg.

Rydym ni eisiau i’n staff hidio am yr amgylchedd gymaint â ni, ac mae pob un yn derbyn copi o’n polisïau pan maent yn dechrau gweithio efo ni. Maent hefyd ar gael i unrhyw un sydd â diddordeb, ac yn cael eu harolygu bob blwyddyn. Mae unrhyw hyfforddiant byddai o fudd i ni gynyddu ein gofal amgylcheddol yn cael ei ychwanegu i ein cynllun busnes.

Mae’n wych fod y gwobrau wedi adnabod ein sylw at yr amgylchedd ac ein hymroddiad i fod mor gynaliadwy â phosib. Llongyfarchiadau i bawb yn ein tîm wnaeth helpu wneud i hyn ddigwydd.

Any orders placed between 20th Dec – 4th Jan will be despatched on 4th Jan 2021. Read More.

beach

Stay in touch

We put a lot of time and care into our newsletters, and want them to be something you look forward to opening rather than deleting.

Expect original recipes from brilliant chefs, links to interesting and delicious things, and of course, plenty of beautiful pictures of the Salty Isle. It's a flicker of Ynys Môn in your inbox, around once a month.

We know you get a lot of emails and we promise not to go overboard. You can unsubscribe at any time.

0
Your basket