Cywydd yr Halen
John Williams, 1839
(Ioan ap Ioan; 1800 – 1871), Gweinidog y Bedyddwyr ac awdur
Oh! am ganwyll pwyll i’m pen
I hylaw wel’d lles Halen,
Ac awenydd, lwysrydd lên,
I hwylus brydu i Halen.
Myn pawb mai câs iawn mewn pen
Yw ŵy hilig heb Halen:
Hylwgr yw’r oll, heb Halen,
A llwyr wael, sydd is lloer wen.
Holi yn glau am Halen
I’w cawl mae ieuangc a hen.
Hiliai y cig heb Halen,
Madronai, prydai i’r pen.
O ddifri’, ‘chaem ni îs nen,
Heli oni b’ai Halen:
E welir fel mae Halen
Yn rhôdd o drefniad ein Rhên:
Is haul fe drefnws Halen
Rhag madreddau, heintiau hen.
Y byd, madronai i ben,
Byw helynt, on’ bau Halen
Fraint werthfawr! yn awr, îs nen,
Y Duw Hael, mae dau Halen –
Halen naturiol hylwydd,
A Halen gras, rhadras rhwydd;
Halen cyfamod Celi;
Halen yr Ion, radlon Ri;
Halen o elfen eilfyd;
Halen Iôr i buro’r byd;
Halen yr Iesu haelwych;
Halen pêr, gwiwber, a gwych.
Crawen o Halen helaeth
Iôr y nef, yn wir, a wnaeth
Fyrdd yn saint mewn braint a bei,
Coelier, ar ddelw ein Celi:
A Halen yw hwn eilwaith
Ganmolir, folir yn faith.
Ys Halen, os craff sylwir,
O hwn ydyw’r saint yn wir;
Halen o Halen ynt hwy,
Rai didwyll, mae’n gredadwy.
O Dduw, gwna fi fel Halen,
Bob awr, o les mawr, Amen.