Bydd darllenwyr rheolaidd o’n blog yn gwybod fod gennym gyfres o’r enw ‘Panad gyda …’ lle rydym yn gofyn cwestiynau cyflym am fwyd, athroniaeth, a bywyd pobl ddiddorol. Dros y blynyddoedd, un o’n hoff gwestiynau yw ‘disgrifiwch Gymru mewn pum gair.’ Mae cyfyngiad bach yn gwneud rhai pobl greadigol iawn gyda’u hatebion.

Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi, roeddem yn meddwl y byddai’n braf casglu rhai o’n huchafbwyntiau at ei gilydd i ddathlu ein cartref. Felly dyma nhw. O Syr Terry Wogan i Syr Ken Hom, a digon o bobl yn y canol, dyma sut mae ein gwlad fach yn cael ei chrynhoi.

FFOTOGRAFFYDD BWYD JONATHAN GREGSON: Gwlyb, ond anhygoel o hardd

GWNEUTHURWR MENYN GRANT HARRINGTON: Ewyn môr, dreigiau, cennin Pedr, rygbi

PRIF GOGYDD Y MARRAM GRASS ELLIS BARRIE: Prydferth, croesawgar, cymunedol, antur, bwyd

AWDURES YN Y GUARDIAN ANNA JONES: tiroedd gwyllt, pobl cynnes, cartref

TRYSOR CENEDLAETHOL SYR TERRY WOGAN: Gwlad y Gan, bara lawr

PERCHENNOG SIOCLED NOM NOM LIAM BURGESS: Penderfyniad, antur, creadigrwydd, chwilfrydedd, hud

PERCHENNOG FATTIE’S BAKERY CHLOE THIMMS: Gwyllt, cysurus, ffres, haelionus, bryniog

CYD-SYLFAENYDD HALEN MÔN ALISON LEA-WILSON: Balch, craff, cynhwysol, hardd, meithrin

COGYDD TOMOS PARRY: Hiraeth, rygbi, cennin Pedr, barddoniaeth

CYD-SYLFAENYDD MADARCH NANTMOOR CYNAN JONES: Cyfareddol, ysbrydoledig, rhwystredigaethus , chartref

CYD-SYLFAENYDD BWYTY DYLAN’S DYLAN ROBIN HODGSON: Gwyllt, gwych, gwlyb, gwyntog a hiraethus

CYD-SYLFAENYDD DARLITHOEDD DO DAVID HIEATT: Gostyngedig. Hiwmor. Gonest. Gymuned. Creadigol.

AWDURES BWYD SIGNE JOHANSON: Prydferth, tangnefeddus, cyfeillgar, melodig, croesawgar

COGYDD KEN HOM: Lle gyda bwyd gwych

AWDUR BWYD LEE WATSON: Cyfeillgar, hanesyddol, cerddoriaeth, barddoniaeth, mynyddoedd

Delweddau: Jess Lea-Wilson

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping