Crepes gwenith yr hydd blas mwg gyda sbigoglys a nytmeg
INGREDIENTS
Ar gyfer 4 person
Ar gyfer y crepes
- 150g o flawd gwenith yr hydd, wedi’i hidlo
- ¼ llwy de o halen môr Halen Môn ar ffurf darnau mân
- 375ml o laeth cyflawn
- 1 wy
- 2 lond llwy de o ddŵr mwg Halen Môn
- 50g o fenyn heb halen, wedi’i doddi, ac ychydig mwy ar gyfer y ffrïo
Ar gyfer y llenwad
- 15g o fenyn heb halen
- 4 ewin garlleg, wedi’u sleisio’n denau
- 200g o sbigoglys, wedi’i olchi
- 4 llond llwy ffwrdd o hufen dwbl
- 1/8 o nytmeg, wedi’i ratio
- Olew had rêp, ar gyfer y ffrïo
- 4 wy
- Halen ar ffurf darnau a phupur du, i orffen.
Dyma rysáit a ddatblygwyd gan ddefnyddio un o’n hoff badelli o Netherton Foundry. Rydym yn defnyddio’r badell honno ym mhob cam o’r broses goginio yn y rysáit hon. Fel arfer, y rheol wrth wneud crempogau yw bod yr un gyntaf sy’n mynd i’r badell yn fethiant a bod y rhai sy’n dilyn yn fwy llwyddiannus ar ôl cael yr ymarfer, ond mae’r padelli hyn yn coginio pob un grempog yn berffaith, o’n profiad ni. Ar ben hyn, oherwydd eu bod yn cynhesu’n wastad ac yn gallu gwrthsefyll tymheredd uchel, maent yn berffaith ar gyfer wy (neu facwn os ydych yn dymuno) wedi’i ffrïo’n grimp – cynhwysyn hanfodol arall yn y rysáit hon.
Mae blawd gwenith yr hydd yn ddi-glwten yn naturiol, ac mae ganddo flas cnau dymunol. Mae ei nodweddion sawrus yn dwysáu wrth ychwanegu dŵr mwg, a dyna sy’n gwneud y crempogau hyn mor arbennig. Ceisiwch ychwanegu ambell i ddiferyn ar ben yr wyau wedi iddynt goginio hefyd, i roi dyfnder ychwanegol.
Cymysgwch y blawd a’r halen gyda’i gilydd mewn powlen gymysgu fawr. Ychwanegwch hanner y llaeth a’i chwipio i’w gyfuno – bydd y cytew’n teimlo’n eithaf trwchus a thebyg i bast i ddechrau. Chwipiwch yr wy i mewn, ac yna’r llaeth a’r dŵr mwg sydd ar ôl. Daliwch ati i gymysgu nes bod cytew tenau yn ffurfio. Yna, bydd angen ei orchuddio a’i roi yn yr oergell i oeri am o leiaf awr, neu hyd at 24 awr.
Tynnwch y cytew o’r oergell, chwipiwch y menyn tawdd i mewn a chynheswch badell sauté 26cm dros wres canolig am 45 eiliad. Rhowch ddarn bach o fenyn yn y badell – dylai ddechrau sïo ar unwaith, a dechrau toddi a stemio. Daliwch y badell ar ogwydd am ychydig i ledaenu’r menyn dros y badell, yna arllwyswch lond lletwad o gytew yn y canol. Symudwch y badell o gwmpas mewn cylch i ffurfio crempog gron. Coginiwch y grempog am 2-3 munud nes bod arwyneb y cytew yn edrych yn sych a’r ymylon yn tywyllu. Trowch y grempog drosodd i’w choginio ar yr ochr arall am gwpwl o funudau. Daliwch ati i ffrïo’r cytew, gan ychwanegu rhagor o fenyn i’r badell wrth fynd ymlaen, yna pentyrrwch y crempogau wedi’u coginio rhwng haenau o bapur pobi. Dylai’r cytew wneud oddeutu 8 crempog. Cadwch y crempogau’n gynnes mewn popty ar wres isel tra byddwch yn coginio’r llenwad.
Gan ddefnyddio’r un badell sauté, toddwch y menyn sydd ar ôl dros wres canolig, yna ffrïwch y garlleg nes ei fod yn euraidd ac yn sïo, am tua munud. Tynnwch y garlleg allan gan ddefnyddio llwy dyllog a’i sychu ar bapur cegin. Gan adael y menyn yn y badell, ychwanegwch y sbigoglys a rhowch gaead ar y badell. Coginiwch y sbigoglys dros wres isel nes ei fod yn gwywo; dylech dynnu’r caead bob rhyw funud a throi’r sbigoglys gan ddefnyddio gefel goginio, fel ei fod yn coginio’n wastad. Pan fydd y sbigoglys i gyd yn wyrdd tywyll ac wedi colli ei ‘fywiogrwydd’, gadewch y badell heb gaead arno, er mwyn i unrhyw ddŵr dros ben allu anweddu. Nesaf, ychwanegwch yr hufen a’r garlleg roeddech wedi’i gadw, a’u troi. Coginiwch y rhain am funud, yna ychwanegwch y nytmeg a’i droi drwyddo. Trosglwyddwch y sbigoglys i fowlen gynnes a’i gadw’n gynnes yn y popty tra byddwch yn coginio’r wyau.
Sychwch y badell gan ddefnyddio papur cegin (nid oes angen ei golchi). Cynheswch lond llwy fwrdd o olew had rêp yn y badell dros wres canolig-uchel. Pan fo’r olew’n boeth, craciwch yr wy cyntaf i mewn a’i goginio nes bod y gwynnwy wedi setio a’r ymylon yn grensiog gydag ychydig o swigod arnynt. Tynnwch yr wy o’r badell pan fo’r melynwy wedi coginio fel rydych chi’n ei hoffi (rydym ni’n ei hoffi’n rhedeg ychydig), a’i gadw’n gynnes. Coginiwch weddill yr wyau yn yr un ffordd, yna gallwch weini’r crempogau ar blatiau cynnes, gyda’r sbigoglys a’r wyau arnynt. Ychwanegwch ychydig o bupur a darnau halen dros y melynwy i orffen.