Cracer Popeth - Halen Môn

Cracer Popeth

by | Gor 14, 2022

INGREDIENTS

Yn gweini 1

    • 150g blawd plaen

    • 150g blawd cyflawn

    • 1 llwy de powdwr codi

    • 1 llwy de halen môr pur

    • 1 llwy fwrdd o Popeth

    • 60ml olew olewydd

    • 100-130 ml o ddŵr

Craceri crimp, tenau gyda mymryn o’n sesnad Popeth newydd sbon. Rhowch gynnig ar wahanol flawdiau i weld p’run yw’r gorau gennych – rydyn ni’n hoffi hanner blawd plaen a hanner cyflawn. Mae’r rysáit hon yn gwneud digonedd gan fod tuedd iddynt gael eu bwyta ar eu hunion – ond mae’n bosib i chi haneru’r cynhwysion os yw’n well gennych. Mae’n rysáit syml ond cofiwch fod angen i’r toes orffwys am ychydig oriau. Fe wnânt gadw’n dda mewn cynhwysydd seliedig am wythnos.

Cymysgwch y cynhwysion sych gyda’i gilydd mewn powlen gymysgu cyn ychwanegu’r olew a 100ml o ddŵr. Casglwch y cynhwysion hyn at ei gilydd i greu toes, gan ychwanegu rhagor o ddŵr os yw’n rhy sych / rhagor o flawd os yw’n rhy wlyb. Unwaith y byddwch wedi creu pêl o does lapiwch y toes mewn cling ffilm a’i roi yn yr oergell am o leiaf 2 awr.

Cynheswch y popty i 200C/ nwy 6

Tynnwch y toes o’r oergell a’i roi ar arwyneb â blawd. Rhannwch y toes yn 20 darn.

Rowliwch bob darn yn belen cyn rowlio bob un cyn deneued â phosib gyda rholbren. Os ydych yn dymuno, gallwch greu craceri o unrhyw siâp. Mae siapiau cylchog neu hirgrwn yn gweithio’n dda. Mae gwirioneddol angen i’r toes fod yn denau er mwyn iddo grimpio yn y popty. Rhowch nhw ar ddalen bobi wedi’i leinio a phriciwch y craceri â fforc. Pobwch am 8 munud neu nes byddant yn dechrau troi’n euraidd. Mae’n debyg y bydd angen i chi bobi mewn sypiau.

0
Your basket