Cennin Tri Chornel wedi’u Heplesu

by | Maw 11, 2021

INGREDIENTS

Yn gwneud 1 X jar 2L

  •  250-300g cennin tri chornel, torri’r gwaelod a’u golchi

  • 3 deilen llawryf

  • 1.25L halen heli, 5% (1.25 ml dŵr a 63g o halen môr Halen Môn)

  • Deilen fresych/pwysau eplesu

    Mae Nena Foster yn awdur bwyd sy’n arbenigo yn y byd eplesu. Nod ei holl fwyd yw dod â phleser a symlrwydd yn ôl i goginio, ac mae’n adnabyddus am ddod â’i natur bositif i’w holl fwyd ac addysgu. Mae ei gweithdai ar-lein yn wych, sy’n cynnig ffordd ardderchog o ddysgu mwy am fanteision gwych eplesu.

    Yn y rysait hon, mae’n dangos sut i greu ategyn blasus allan o flodau wedi’u fforio sy’n dod o bob rhan o’r DU.

    Mae’n siŵr mai cennin tri chornel yw un o’m hoff bethau i fforio, ac roedd penderfynu eplesu peth o’r hyn yr oeddwn wedi dod o hyd iddo yn un o’r llwyddiannau blas gorau erioed. Ar ôl cael ei eplesu, mae ei flas garlleg a nionyn yn meddalu, ac mae’r canlyniad yn debyg i asbaragws, ond gyda blas llawn umami. Gallwch ychwanegu hyn i saladau, brechdanau neu ei gymysgu i besto neu ddip. A chofiwch gadw’r heli, gan ei fod yn ychwanegu blas i unrhyw beth, gan gynnwys cawl.

    Rhowch y cennin a’r dail llawryf yn dynn i mewn i’r jar. Torrwch y coesynnau os oes angen i sicrhau bod 4-5cm o le uwchben y cennin a phen y jar.

    Nesaf, crëwch eich heli drwy hydoddi’r halen mewn digon o ddŵr berwedig a rhowch ddŵr oer wedi’i hidlo ar ei ben nes bod 1.25L yn y cynhwysydd.

    Tywalltwch yr heli dros y cennin ar ôl iddo oeri ychydig, gan wneud yn siŵr eu bod wedi gorchuddio’n llwyr. Os oes angen rhagor o heli arnoch, defnyddiwch ddeilen fresych i orchuddio’r llysiau, neu bwysau eplesu i sicrhau bod y cennin wedi’u gorchuddio’n llwyr gan yr heli. Caewch y jar(iau).

    Gadewch y cennin i eplesu am 2-3 wythnos. Bydd yr heli’n mynd yn gymylog ac yn befriog wrth i’r llysiau eplesu, ond peidiwch â phoeni, bydd yn clirio. Sicrhewch eich bod yn eplesu i ffwrdd o olau’r haul, ac yn rhywle sydd â thymheredd cyson o 20-22C.  

    Pan fydd y cennin yn barod i’w bwyta, rhowch mewn jariau llai i’w storio (yn ogystal ag ychydig o’r heli i’w gorchuddio) yn yr oergell a bwytewch nhw o fewn 4-6 wythnos, ond byddant yn para’n hirach os ydych yn eu cadw’n oer a heb eu hagor.

    0
    Your basket