Caws Pob Cymreig gyda Wisgi 

by | Chw 22, 2024

INGREDIENTS

Pryd i 2 berson 

 

  • 25g o fenyn heb halen 
  • 2 gennin main, wedi’u sleisio’n fân 
  • 175g o gaws Cheddar aeddfed iawn, wedi’i gratio 
  • 1 llwy fwrdd o fwstard Dijon Mwg Halen Môn 
  • 25ml o wisgi Penderyn Madeira 
  • 50ml o gwrw Cymreig 
  • 1 llwy fwrdd o gennin syfi ffres wedi’u torri 
  • 2 dafell drwchus o fara, wedi’u tostio
  • Olew niwtral, ar gyfer iro 
  • Halen Môn a phupur 

Fel arfer, gwneir caws pob gyda chwrw (stowt, neu gwrw), ond mae ychwanegu wisgi yn dod â gwres a chymhlethdod i’r caws ar dost gorau. Rydym hefyd wedi cynnwys cennin sy’n fenyn i gyd ac wedi’u carameleiddio (oherwydd pwy all wrthod hyn?). Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio cennin main a fydd yn coginio’n gyflym ac yn troi’n feddal o dyner. 

  1.  Toddwch y menyn mewn padell ffrio fawr dros wres canolig – uchel. Pan fydd y menyn wedi toddi’n llwyr ac yn hisian, ychwanegwch y cennin, pinsied mawr o halen a digon o bupur du. Coginiwch, gan droi’r cyfan yn achlysurol am 5 munud nes bod y cennin wedi meddalu. Trowch y gwres i lawr i ganolig – isel a pharhau i goginio’r cennin, gan eu troi’n achlysurol, nes eu bod yn dyner, yn felys ac yn dechrau carameleiddio (tua 12-15 munud). Tynnwch y sosban oddi ar y gwres.
  2. Mewn powlen gymysgu, cymysgwch y caws, y mwstard, y wisgi, y cwrw a’r cennin syfi a malu digon o bupur du dros y cyfan.
  3. Trowch y gril i uchel. Leiniwch dun rhostio bas gyda ffoil a’i iro’n ysgafn ag olew. Rhowch y tafelli o fara ar y ffoil a rhannwch y cennin rhwng y tafelli. Bydd yn edrych fel llawer o gennin, ond wedi’u cyfuno â’r caws toddedig, bydd y cyfan yn agoriad llygad. Rhowch y cymysgedd caws ar ben y cennin a rhowch y tun o dan y gril nes bod y caws wedi toddi’n llwyr ac yn byrlymu. Gadewch i’r caws pob oeri am ychydig funudau cyn eu torri’n haneri, neu’n siapau bysedd. Gweinwch y cyfan gyda mwstard dijon mwg ar yr ochr, a salad â dresin siarp.

Gan Penderyn

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping