Cawl sawrus hyfryd, perffaith wrth i’r dyddiau ddechrau troi’n oerach.

Digon i 4

4 llwy fwrdd o olew olewydd
Halen Môn
1 goes o seleri wedi’i dorri’n fân
2 moron canolig, wedi’u torri’n fân
1 winwnsyn wedi’i dorri’n fân
1 deilen bae
3 ewin garlleg, wedi’i sleisio’n fân
1 tsili coch, wedi’i dorri’n fân (gadewch yr hadau ynddo os ydych yn hoffi rhywfaint o gynhesrwydd)
6 tomatos mawr ar y winwydden
125ml gwin coch
250g ffacbys puy wedi’u coginio (neu dun 400g, wedi’i ddraenio)
150g dail cavolo nero, wedi eu golchi
2 llwy fwrdd o ddŵr mwg Halen Môn, neu 3 llwy fwrdd ar gyfer blas mwy dwys
Opsiynol: 50g Cheddar mwg

Dechreuwch trwy gynhesu 2 lwy fwrdd o olew olewydd mewn sosban ddofn dros wres canolig. Ychwanegu pinsiad o Halen Môn ynghyd â’r seleri, moron a nionyn. Trowch i’w gorchuddio gyda’r olew a’i goginio, gan droi’n rheolaidd am 8-10 munud, nes bod y llysiau wedi meddalu.

Llenwch degell a’i ferwi.
Torrwch groes yn y croen ar waelod y tomatos a’i roi mewn powlen sy’n dal gwres. Gorchuddiwch â dŵr berw o’r tegell a’i rhoi ar un ochr am 5 munud.

Yn ôl i’r cawl – ychwanegwch y garlleg wedi’i sleisio a’r chilli a’i goginio am funud pellach. Pliciwch groen o’r tomatos a’u rhoi mewn powlen. Gyda chyllell miniog torrwch nhw’n fras, gan gadw’r holl sudd yn y bowlen. Ychwanegwch at y sosban ynghyd â’r gwin coch, trowch y gwres i lawr yn isel a choginiwch yn ysgafn, gan ganiatáu i bob un o’r blasau cymysgu am 30 munud.

Pum munud cyn i chi fod yn barod i’w fwyta, trowch y gwres i fyny i ganolig a throwch y ffacbys sydd wedi’u coginio y cavolo a’r dŵr mwg i mewn i’w cynhesu. Os ydych chi’n hoffi cawl tenau, gallech ychwanegu ychydig o ddŵr poeth o’r tegell. Rhowch y cawl i mewn i bowlenni ac arllwyswch weddill yr olew olewydd dros y top.

Gweinwch gyda bara ffres a chaws mwg, os dymunir.

0
Your basket