Carbonara cennin blas wg - Halen Môn

Carbonara cennin blas wg

by | Hyd 27, 2022

INGREDIENTS

Ar gyfer 4 person

 

  • 25g o fenyn heb halen

  • 1 llond llwy fwrdd o olew had rêp neu olew olewydd

  • 2 genhinen fawr, wedi’u sleisio’n denau

  • 4 ewin o arlleg, wedi eu malu

  • 300g o bucatini sych, neu fath arall o basta nwdls hir, megis sbageti neu linguine

  • 3 melynwy

  • 1 llond llwy ffwrdd o ddŵr mwg

  • 60g o gaws Parma wedi’i ratio’n fân, ac ychydig mwy ar gyfer gweini

  • Halen a phupur

 

Ar gyfer y caprys crensiog

  • 2 lond llwy fwrdd o olew had rêp neu olew olewydd
  • 2 lond llwy fwrdd o gaprys newydd mewn dŵr hallt

Yn draddodiadol, mae carbonara hufennog yn defnyddio guanciale (porc wedi’i drin) neu facwn, ond mae’r fersiwn llysieuol hwn yn defnyddio ein dŵr mwg i roi effaith hynod gyfoethog ac ”umami’. Caiff y saws blasus ei wneud drwy guro melynwy amrwd i mewn i basta poeth. Weithiau, gall hyn arwain at saws wedi ceulo’n annymunol, ond mae’r dull hwn yn osgoi hynny drwy chwipio’r dŵr coginio pasta poeth i mewn i’r melynwy yn gyntaf, i greu saws emylsiog, sidanaidd hyfryd.

Dechreuwch drwy garameleiddio’r cennin. Toddwch y menyn mewn padell ffrïo fawr, yna ychwanegwch yr olew. Pan fydd y cymysgedd yn sïo’n dda, ychwanegwch y cennin a hanner llond llwy de o halen ar ffurf darnau mân. Ychwanegwch ddigon o bupur. Coginiwch y cymysgedd dros wres canolig, gan ei droi’n rheolaidd am 15 munud, nes bod y cennin yn feddal drwyddynt ac wedi troi’n wyrdd tywyll. Ychwanegwch y garlleg a’i goginio am funud arall nes ei fod yn bersawrus.

 Yn y cyfamser, coginiwch y pasta mewn sosban fawr o ddŵr berwedig â digon o halen ynddo, am 3 munud yn llai na’r hyn sydd yn y cyfarwyddiadau ar y pecyn. Tra bo’r pasta’n coginio, rhowch y melynwyau mewn powlen gyda’r dŵr mwg. Cymerwch 100ml o’r dŵr coginio pasta wrth iddo ferwi, a’i chwipio i mewn i’r cymysgedd melynwy.

 Draeniwch y pasta, gan gadw 250ml arall o’r dŵr coginio pasta. Rhowch y pasta a’r sosban yn ôl ar y gwres. Gan weithio’n gyflym, ychwanegwch hanner y cymysgedd melynwy, llond llaw o’r parmesan a 100ml o’r dŵr pasta, yna defnyddiwch yr efel goginio i’w droi’n barhaus. Ychwanegwch y cennin a gweddill y cymysgedd melynwy, parmesan a dŵr pasta, gan droi’r cyfan. Daliwch ati i’w gymysgu dros wres isel am oddeutu 4 munud, nes bod saws sgleiniog, trwchus iawn yn gorchuddio bob darn o basta. Blaswch y cymysgedd ac addaswch y sesnin – bosib iawn y bydd eisiau pinsiad arall go dda o bupur. Cadwch y pasta’n gynnes tra byddwch yn coginio’r caprys.

 Sychwch y badell y gwnaethoch ei defnyddio i goginio’r cennin gan ddefnyddio darn o bapur cegin glân, yna cynheswch yr olew dros wres canolig. Yn y cyfamser, sychwch y caprys ar ddarn o bapur cegin, i gael gwared ar gymaint â phosib o ddŵr hallt, gan y bydd hwnnw’n clecian cyn gynted ag y bydd y caprys yn cyffwrdd yr olew. Pan fydd yr olew’n boeth, ychwanegwch y caprys yn y badell a’u coginio, gan eu troi â llwy dyllog neu sbatwla nes bod y caprys wedi agor fel tiwlip. Defnyddiwch y llwy dyllog i godi’r caprys a’u rhoi ar blât wedi’i orchuddio â phapur cegin, i sychu’r olew sydd dros ben.

 Rhannwch y pasta rhwng bowlenni cynnes, gosodwch y caprys crensiog ar y top ac ychwanegwch ragor o barmesan.

0
Your basket