Mae hon yn ffordd ardderchog i ddefnyddio ein Halen Môr Pur Mwg Dros Dderw – mae’r chwerwder yn caniatáu i natur coelcerthog ein halen môr ddod trwodd. Mae melys, mwg a halen yn gyfuniad anodd ei guro.

20g menyn heb halen, wedi toddi
120g menyn heb halen, wedi’i dorri’n giwbiau 1cm
125ml hufen dwbl
180g siwgr caster
½ llwy de hael o Halen Môr Mwg Dros Dderw

Leiniwch dun rhostio bach gyda phapur gwrthsaim, gan wneud yn siŵr bod y papur yn dod i fyny ochrau’r tun o leiaf 2cm. Brwsiwch y papur ac ymylon agored y tun gyda menyn wedi’i doddi. Rhowch y tun ar un ochr.

Rhowch y menyn mewn sosban a’i gynhesu dros wres canolig hyd nes iddo doddi.

Nesa’, cyfunwch y siwgr mewn sosban fach gyda 3 llwy fwrdd o ddŵr. Cynheswch yn gyflym dros wres uchel nes bod y siwgr yn dechrau berwi. Gan weithio yn gyflym, brwsiwch ochrau’r sosban i lawr gyda brws crwst gwlyb. Mae hyn yn atal unrhyw grisialau siwgr mynd yn sownd ar yr ochrau a allai arwain at grisialu nes ymlaen.

Gadewch i’r siwgr barhau i ferwi iddo droi’n ambr golau o amgylch ymylon y sosban. Gall droi’n gyflym, felly peidiwch â bod ofn ei dynnu oddi ar y gwres yn achlysurol i wirio’r lliw.

Yn araf ychwanegwch y cymysgedd o fenyn a hufen, ychydig ar y tro. Dylai’r ychwanegiad gael ei wneud yn ofalus iawn i atal y gymysgedd caramel gorlifo’r  sosban.

Trowch y gwres i lawr ac ychwanegwch yr halen. Mudferwch am 7 munud pellach. Yna tollwch y gymysgedd i’r tun wedi’i leinio a’i adael i oeri am tua 3 awr cyn ei dorri. Taenwch ychydig mwy o halen ar y diwedd os dymunir.

Lapiwch bob darn mewn papur gwrthsaim i’w hatal rhag glynu at ei gilydd.

Rysáit: Anna Shepherd
Llun: Jess Lea-Wilson

0
Your basket