Cacennau sinsir mwg bach - Halen Môn

Cacennau sinsir mwg bach

by | Ebr 8, 2021

INGREDIENTS

 

 

  • 75g o fenyn heb halen

  • 100g siwgr muscovado tywyll

  • 150g triog du

  • 2 wy mawr, wedi’u curo

  • 4 llwy fwrdd o wisgi Cymreig (rydyn ni’n hoffi Aber Falls)

  • 2 lwy de o fanila pur

  • 180g blawd codi

  • 2 lwy de o sinsir powdwr

  • 2 lwy de o halen môr pur Halen Môn mwg dros dderw

  • 140g sinsir candi, wedi’i hollti’n fân (mae surop sinsir yn gweithio hefyd)

  • 80g o siwgr eisin

Mae halen mwg a wisgi Cymreig yn rhoi dwysedd gwych i’r cacennau bach hyn. Rydym yn hoff o gacennau unigol – ac mae’r rysáit yn creu 12 ohonynt gan ddefnyddio hambwrdd myffins cyffredin, neu 1 gacen dorth gan ddefnyddio tin torth 2lb (23cm) cyffredin.

Cynheswch y popty i 180C/ffan 160C/nwy 4. Seimiwch a rhowch bapur mewn tin torth neu seimiwch yr hambwrdd myffins yn dda.

Toddwch y menyn a siwgr mewn sosban ar wres isel. Ar ôl i’r siwgr doddi, arllwyswch y cymysgedd i ddysgl gymysg fawr a’i adael i oeri.

Yn y cyfamser, cymysgwch y blawd, sinsir powdwr a halen mewn dysgl.

Defnyddiwch chwyrlïwr i ychwanegu’r triog i gymysgedd y menyn a’r siwgr. Curwch y cymysgedd wyau ychydig ar y tro cyn ychwanegu 3 llwy de o wisgi, fanila a’r rhan fwyaf o’r sinsir candi (gan gadw rhai darnau er mwyn addurno). Ychwanegwch y cynhwysion sych a chyfuno popeth yn araf. Ar ôl cymysgu popeth, defnyddiwch lwy i drosglwyddo’r cymysgedd i din wedi’i baratoi, neu ei rannu rhwng 12 twll yr hambwrdd myffins. Pobwch am 45 munud neu hyd nes eich bod yn gallu tynnu gweyll glân o’r cynnyrch. Os ydych yn gwneud cacennau llai, pobwch am 20 munud.

Ar ôl i’r cacennau bach orffen pobi, gadewch iddynt oeri yn eu tuniau am oddeutu 10 munud. Yna, tynnwch nhw o’r tin yn araf deg (efallai y byddwch angen defnyddio cyllell baled o amgylch tu mewn y tuniau i helpu’r cacennau symud).

I wneud yr eisin, rhowch y siwgr eisin drwy ogr uwchben ddysgl a’i gyfuno gyda’r llwy fwrdd o wisgi sydd dros ben. Arllwyswch yn ysgafn dros y cacennau. Defnyddiwch y sinsir candi sydd wedi’i hollti’n denau i addurno.

IMAGE + RECIPE: Elly Kemp

 

0
Your basket