Mae’r rhain yn hyfryd i gael am de ar ddiwrnod oer. Coginiwch nhw ar faen pobi neu mewn padell ffrio drwchus – neu ar Aga, os ydych yn ddigon ffodus i berchen un. Maent yn rhan draddodiadol o de Cymreig yr arferai gael eu gwneud gan yr aelwyd.
Cynhwysion
Am 20 cacen
- 350g blawd codi
- 2 lwy de powdr pobi
- 175g menyn meddal heb halen
- Pinsiad o Halen Môn Fanila
- 115g siwgr mân
- 100g siocled, wedi’i falu
- 2 lwy fwrdd o laeth
- 1 wy wedi’i guro
Dull
- Mesurwch y blawd a’r powdwr pobi mewn powlen fawr, a rhwbiwch y menyn i fewn nes bod y gymysgedd yn debyg i friwsion bara mân.
- Ychwanegwch binsiad o Halen Môn Fanila a chymysgwch yn dda.
- Ychwanegwch y siwgr a’r siocled.
- Ychwanegwch y llaeth a’r wy wedi’i guro i wneud toes cadarn.
- Rholiwch y toes allan ar arwyneb gwaith â blawd arno i drwch o 5mm a’u torri’n gylchoedd
- Irwch y maen, padell ffrio neu Aga.
- Rhowch y pice ar y maen a’u coginio hyd nes yn troi’n liw euraidd ac yna eu troi drosodd.
- Oerwch y pice ar rac weiren, gydag ysgeintiad o siwgr mân ac ychydig mwy o Halen Môn Fanila i roi blas.
- Bwytewch gynnes ar y diwrnod yr ydych yn eu gwneud, naill ai ar eu pen eu hunain neu gyda menyn a jam.