Byns Mêl Cymreig
INGREDIENTS
Cynhwysion:
- 100g menyn
- 300ml llaeth
- 600g blawd bara cryf
- 100g siwgr caster
- 2 baced 7g o furum sych
- 1 llwy de halen
- 1wy
Ar gyfer y llenwad:
150g menyn meddal
150g siwgr brown
Toddwch y menyn mewn sosban, ac ychwanegwch y llaeth. Cynheswch i 37°C, os nad oes gennych thermomedr, dylai fod yn gynnes ond ddim yn boeth. Os ydych yn gallu gadael eich bys ynddo, fe ddylai fod yn iawn, ond gofalwch nad yw’n rhy boeth gan y bydd yn lladd y burum.
Mewn powlen fawr, cymysgwch y blawd, siwgr, halen a’r burum. Yna ychwanegwch yr wy ac yna’r llaeth a’r menyn a’i gymysgu. Ar y pwynt yma fe fydd yn does reit wlyb.
Rhowch ychydig bach o flawd (dim gormod) neu olew ar eich bwrdd a thylinwch y toes am 10 munud nes ei fod yn llyfn, neu os oes gennych un defnyddiwch y bachyn tylino ar eich peiriant cymysgu.
Rhowch y toes mewn bowlen wedi ei iro gydag olew a gorchuddiwch gyda haenen cling. Gadewch i’r toes godi mewn rhywle cynnes am awr. Ar ôl i’r toes ddyblu mewn maint, cynheswch y popty i 200C / 180C ffan.
I wneud y llenwad cymysgwch y menyn a’r siwgr nes ei fod yn bast meddal a rhannwch y toes mewn i 8-10 darn.
Ysgeintiwch ychydig o flawd ar eich bwrdd a roliwch un o’r darnau mewn i siâp petryal. Gosodwch lond llwy de o’r menyn a siwgr yn y canol a phlygwch y toes yn ei hanner, gan ddod a’r ochrau byrraf at ei gilydd. Defnyddiwch eich bawd i bwyso’r toes i lawr yn galed ar y gornel agosaf atoch.
Nawr rhowch lwyaid arall o’r menyn a’r siwgr yn y canol a phlygwch y toes tuag atoch chi i ffurfio triongl. Eto pwyswch y gornel i lawr yn galed gydag eich bawd.
Gosodwch y byns ar ddau hambwrdd pobi wedi ei leinio gyda phapur gwrthsaim.
Pobwch am 15-20 munud nes eu bod nhw’n dechrau brownio. Peidiwch â phoeni os yw rhywfaint o’r llenwad yn dod allan o’r ochrau, mae hyn fod i ddigwydd.
Gadewch i oeri ac ysgeintiwch gydag ychydig o siwgr eisin.
IMAGE: Elliw Gwawr
RECIPE KINDLY SHARED FROM: Paned a Chacen