Click here for the recipe in English.
‘Da ni am ddweud ein bod yn meddwl fod hon yn un o’n ryseitiau brownies orau i ni drio erioed.
Mewn gwirionedd, Anna Jones (“y Nigella newydd” yn ôl The Times), a wnaeth ysgrifennu’r rysáit, yn dweud yn powld “os ffeindiwch chi rywun sydd ddim yn eu hoffi wna’i fynd a llwyth iddyn nhw fy hun.”
Maent yn hyfryd, ac yn berffaith ar gyfer rhywun arbennig ar ddiwrnod Santes Dwynwen.
YN GWNEUD 12 BROWNIE MAINT GO DDA
AR GYFER Y CARAMEL
50g menyn heb ei halltu neu olew cneuen coco, ag ychydig ar gyfer iro
100g siwgr castr euraidd heb ei buro
pinsiad da o halen mewn fflochiau (wnaethom ni drio’r Fanila yma, trïwch yr Halen Môn trwy fwg ar gyfer rhywbeth gwahanol).
3 llwy fwrdd o lefrith
AR GYFER Y BROWNIES
150g siocled tywyll
150g menyn heb ei halltu neu olew cneuen coco
150g siwgr castr euraidd heb ei buro neu siwgr muscovado golau
3 wy organig neu fuarth
1 llwy de o rinflas fanila, neu hadau o 1 coden fanila
100g o flawd rhyg, gwenith yr Almaen, neu blaen
Dechreuwch drwy wneud y caramel. Gosodwch ddarn o bapur pobi dros hambwrdd bas a rhwbiwch olew dros arwyneb y papur. Rhowch y siwgr mewn padell a’i roi dros wres canolig. Wrth ei wylio’n ofalus, gadewch iddo gynhesu a thoddi nes bod yr holl raeni siwgr bron wedi diflannu. Yna tynnwch u badell o’r gwres yn sydyn, ychwanegwch eich menyn neu olew cneuen coco, a’i guro i ffwrdd o’r gwres am tua munud. Ychwanegwch yr halen a’r llefrith a’i guro eto. Rhowch yn ôl dros y gwres a churwch yn galed nes bod y cymysgedd wedi tywyllu a thewychu, ac mae unrhyw lympiau o siwgr wedi diflannu. Tolltwch dros y papur wedi’i iro a rhowch yn y rhewgell i galedu am 30 munud.
Rhagboethwch eich ffwrn i 180°C/ ffan 160°C/ nwy 4, ac irwch efo menyn, a rhoi papur pobi tu fewn i dun brownies fychan (mae fy un i un mesur 20 x 20cm ond fyddai unrhyw beth oddeutu hynna yn gwneud y tro).
Tra bod y caramel yn oeri, paratowch eich cymysgedd brownies. Gosodwch bowlen ddiogel rhag gwres dros sosban o ddŵr yn lledferwi, yn sicrhau fod y bowlen ddim yn cyffwrdd y dŵr. Ychwanegwch y siocled a’r menyn neu olew cneuen coco a gadewch iddynt doddi, yn troi o dro i dro. Unwaith wedi toddi, cymerwch y bowlen oddi ar y gwres ac ychwanegwch y siwgr, wedyn yr wyau un ar y tro, ac yn olaf y fanila a’r blawd.
Unwaith fod eich caramel wedi caledu, tynnwch o’r rhewgell. Torrwch un rhan o dri ohono i ddarnau bach a’u troi i mewn i’r cymysgedd brownies. Torrwch y gweddill i ddarnau trwchus.
Tolltwch y cymysgedd brownies i mewn i’r tun wedi’i leinio a gwasgarwch y darnau fwy o garamel wedi halltu drosodd. Pobwch am 25 munud, nes ei fod newydd goginio – bydd crwst wedi ffurfio ar yr arwyneb a fydd y caramel wedi toddi i byllau melyngoch dwfn. Gadewch i oeri am 20 munud cyn torri. Rydw i’n gwybod bydd hyn yn anodd iawn ond fydd y caramel yn ofnadwy o boeth.
Bydd y rhain yn cadw am 4 diwrnod mewn tun aerglos. Rydw i’n eich herio i wneud iddynt barhau drwy brynhawn.
Delwedd: Brian W Ferry
Rysáit wedi’i gymryd o’r llyfr gwych A Modern Way to Eat