Brechdanau bysedd pysgod gyda saws tartar cartref
INGREDIENTS
Yn gweini 2
Ar gyfer y darnau pysgod
-
-
2 ffiled lleden lemwn (tua 250g)
-
40g blawd plaen
-
1 wy, wedi’i chwisgio
-
75g briwsion bara panko
-
4 llwy fwrdd o olew blodau’r haul
Ar gyfer y saws tartar
200g o mayonnaise o ansawdd da neu iogwrt naturiol (neu gymysgedd o’r ddau)
1 sibolsyn bach, wedi’i dorri’n fân1 llwy fwrdd o gaprys, wedi’u torri’n fân
3 cornichon, wedi’u torri’n fân
1 bwnsiad o bersli (neu berlysiau meddal eraill), wedi’u torri’n fân
1 lemwn, croen a sudd
1 llwy de o fwstard dijon myglyd
1 llwy de o halen môr pur gyda garlleg wedi’i rostioI’w weini
4 tafell o fara wedi’i dorri’n drwchus
1 letysen, wedi’i golchi a’i rhwygo
Pupur du craciedig
-
Rhowch gynnig ar y darnau lleden lemwn hyn wedi’u dipio yn ein saws Bloody Mary am gyfuniad gwych, neu gwnewch ein saws tartar gorau gyda’n Mwstard Dijon Mwg a Halen Môr Pur gyda Garlleg wedi’i Rostio a’i daenu’n hael mewn brechdanau.
Mae’r rysáit tartar yn gwneud mwy na digon ar gyfer dwy frechdan ond gellir ei gadw mewn cynhwysydd wedi selio yn yr oergell am hyd at wythnos. Mae’r cymysgedd o mayonnaise ac iogwrt naturiol yn ei wneud yn ysgafnach ac yn fwy sawrus.
Dyma’r cinio gorau os ydych yn gweithio gartref.
.
Yn gyntaf, gwnewch y saws tartar drwy gyfuno’r holl gynhwysion gyda’i gilydd mewn powlen. Bydd gwead y saws yn dibynnu ar ba mor fân rydych chi wedi torri’r cynhwysion, gellir gwneud y saws mewn prosesydd bwyd i’w wneud yn fwy llyfn.
Yn dibynnu ar faint y darnau lleden, torrwch nhw’n stribedi llai. Paratowch 3 dysgl fas gyda’r blawd, yr wy wedi’i chwisgio a’r briwsion bara. Cynheswch yr olew mewn padell ffrio gwrth-lynu ar wres canolig uchel. Dipiwch bob stribedyn o bysgod yn y blawd, yr wy ac yna’r briwsion bara. Rhowch y darnau pysgod wedi’u gorchuddio yn y sosban a’u coginio nes eu bod yn euraid ar bob ochr. Tynnwch nhw o’r sosban a gadael i’r darnau pysgod orffwys ar bapur cegin i amsugno unrhyw olew ychwanegol.
I greu’r brechdanau, taenwch y saws tartar ar y ddwy sleisen o fara. Ychwanegwch 2 neu 3 o ddarnau pysgod at bob brechdan ynghyd â’r letysen wedi’i rhwygo.