Sticlyd, melys, mwg a disglair, mae hyn yn ddysgl na fydd yn siomi unrhyw un sydd wrth eu bodd efo cig. Gweinwch gyda saladperlysiau ffres, coleslaw ac unrhyw bicl o’ch dewis.
Digon i 4
½ kg bol porc buarth organig
olew olewydd
Ar gyfer y marinâd:
20ml dwr wedi’i fygu
1 ewin o arlleg wedi’i blicio a’i dorri’n fân
1 maint bys bawd o sinsir, wedi’i blicio a’i dorri’n fân
1 llwy fwrdd o fêl
10ml tamarind tewsudd
1 llwy de o fwstard
sudd o 1/2 lemwn
1 llwy fwrdd o siwgr Demerara
½ llwy de Halen Môn gyda tsili a garlleg
1 llwy fwrdd o saws brown o ansawdd da
1 shibwnsyn, wedi’i dorri’n fân
Cynheswch y popty i 180C.
Cymysgwch yr holl gynhwysion y marinâd gyda’i gilydd.
Taenwch ychydig o olew olewydd mewn padell rhostio i atal y porc rhag glynu.
Torrwch y cig i mewn 4 tafell gyfartal a hiciwch y bol porc cyn arllwys y marinâd drosto. Defnyddiwch eich dwylo i rwbio’r marinâd i mewn i’r porc yn dda. Arllwyswch ychydig o olew olewydd drosto i orffen, ac ychwanegwch bupur du ffres wedi cracio.
Gadewch am awr i’r marinâd gweithio ei hud.
Rhostiwch yn y ffwrn am 30-40 munud, neu nes dechrau golosgi