Mecryll barbeciw gyda chiwcymbrau wedi’u piclo’n gyflym a salad lemon wedi golosgi - Halen Môn

Mecryll barbeciw gyda chiwcymbrau wedi’u piclo’n gyflym a salad lemon wedi golosgi

by | Mai 24, 2021

INGREDIENTS

Yn gweini 4

Ar gyfer y pysgod

    • 4 ffiled macrell, gyda chroen ac esgyrn
    • 2 lwy fwrdd o ddŵr derw mwg
    • 2 llwy fwrdd o olew olewydd
    • 2 ddarn o arlleg, wedi’u malu
    • Halen môr pur
    • Pupur du wedi’u cracio


      Ar gyfer y ciwcymbr

    • 1 ciwcymbr canolig, wedi’i dorri ar ei hyd a’r hadau dŵr wedi’u tynnu, wedi’i sleisio’n siapiau hanner lleuad
    • 1 sibolsyn banana, wedi’i dorri’n fân
    • 1 llwy fwrdd o finegr seidr afal
    • 1 lemon, sudd a chroen
    • ½ llwy de o hadau coriander, wedi’u malu
    • 1 llwy de o Halen Môr Pur
    • 120g o siwgr mân


      Ar gyfer gweini

    • 2 lemon mawr heb eu cwyro, wedi’u haneru
    • Berwr y dŵr, wedi’i olchi
    • Llond llaw o berlysiau meddal (dil, mintys neu bersli), wedi’u torri

Mae’r rysáit hon ar gyfer ffiledi macrell (ond mae macrell cyfan yn mynd yn dda ar y barbeciw hefyd) a gall gael ei goginio naill ai ar farbeciw neu badell radell os nad yw’r tywydd yn edrych yn rhy ffafriol. Mae macrell yn cymryd blasau Barbeciw yn fendigedig, wedi’i ddwysau gan y Dŵr Derw Mwg. Os ydych chi’n coginio’n uniongyrchol ar y barbeciw sicrhewch fod y gril yn lân i’w atal rhag glynu.

Gweinwch y pysgod yn gynnes gyda’r ciwcymbrau wedi’u piclo, lemonau wedi’i golosgi a thatws cynnar Sir Benfro, wedi’u berwi a’u malu’n ysgafn gyda menyn a halen môr.

Cymysgwch yr olew olewydd, y dŵr, garlleg, halen a phupur. Ychwanegwch y ffiledi macrell i’r cymysgedd a’u gadael i’w marinadu am o leiaf 10 munud.

Tra bod y pysgod yn marinadu’n gyflym, gwnewch y picl. Mewn powlen maint canolig cymysgwch yr holl gynhwysion gyda’i gilydd â’ch dwylo i sicrhau bod y ciwcymbr wedi’i orchuddio’n llwyr yn yr hylif.

Paratowch y lemonau golosg trwy eu coginio ar wres uchel (ar y barbeciw/radell) nes eu bod wedi duo.

P’un a ydych yn defnyddio barbeciw neu’n ffrio mewn padell, ffriwch ar ochr y croen a choginiwch am 3-4 munud cyn eu troi drosodd yn ofalus am 2-3 munud arall ar yr ochr arall. Cymerwch ofal wrth droi er mwyn sicrhau nad yw’r croen yn glynu i’r barbeciw/padell. Dylai’r croen fod yn grimp ac yn euraidd ac wedi golosgi ychydig.

Gweinwch y pysgod ar ben y berwr dŵr, rhowch y perlysiau wedi’u torri ar eu pen gyda’r ciwcymbrau wedi’u piclo a’u gweini gyda hanner lemon golosg yr un.

0
Your basket