Bariau Tide: Fflapjacs Sesame wedi’i Dostio + Halen Môr

by | Maw 25, 2021

INGREDIENTS

 

Gwaelod y fflapjac

• 150g surop aur
• 1 llwy fwrdd o fêl
• 200g menyn halen môr Halen Môn
• 350g ceirch
• 60g siwgr brown meddal

Haen caramel hallt

• 60g siwgr brown meddal
• 130ml hufen dwbl
• 60g menyn halen môr Halen Môn
• Halen Môr Pur

Ychwanegiadau:

• 150g siocled tywyll
• 50g hadau sesame
• Halen Môr Pur

Yn creu 12 o fariau

    Fel arfer, mae gennym lawer iawn ohonynt ar gownter ein caffi awyr agored, Tide. Maent yn gyfuniad gwych o geirch, siocled, sesame, ac wrth gwrs, halen môr.

     

    Cynheswch y popty i 170°C a leiniwch hambwrdd pobi 9”/ 23cm gyda phapur pobi.

    Dechreuwch gyda gwaelod y fflapjac. Toddwch y menyn, y surop aur a’r mêl gyda’i gilydd mewn sosban fach dros wres isel. Unwaith y byddant wedi toddi, ychwanegwch y ceirch a’r siwgr a chymysgu nes y byddant wedi cyfuno. 

    Rhowch y cymysgedd ar yr hambwrdd pobi a phwyswch i lawr i gael haen wastad. Pobwch am 20-25 munud neu nes bydd top y fflapjac yn lliw brown euraidd. Gadewch nhw i oeri i dymheredd yr ystafell.

    Crëwch y caramel hallt drwy doddi’r menyn a’r siwgr gyda’i gilydd mewn sosban fach. Pan fydd y menyn a’r siwgr wrthi’n coginio, ychwanegwch yr hufen dwbl a’u cyfuno’n dda. Gadewch ddigon o amser i’r cymysgedd ddangos swigod a dechrau tewhau, gan gymysgu’n aml am 2 funud nes bydd y cymysgedd wedi lleihau tua chwarter.

    Tywalltwch y caramel dros y fflapjac oer a’i daenu gyda chyllell baled i greu haen wastad. Rhowch y fflapjac yn yr oergell er mwyn gadael i’r caramel oeri. 

    Rhowch yr hadau sesame mewn sosban fach a llydan a’u tostio ar wres canolig ar y stôf, gan ysgwyd y sosban yn rheolaidd fel bod yr hadau’n tostio’n gyfartal. Rhowch yr hadau i un ochr mewn powlen fach unwaith y byddant wedi brownio.  

    Toddwch y siocled yn araf deg mewn powlen gwrth-wres dros ddŵr poeth. Pan fydd yn hylif, tywalltwch y siocled fel haen wastad dros y caramel. 

    Taenwch yr hadau wedi’u tostio a phinsiad go lew o Halen Môr Pur dros y fflapjacs, cyn eu dychwelyd i’r oergell i oeri a’u torri’n 12 darn. 

     

     

     

    0
    Your basket