Mae bara gwastad yn gludwyr blas gwych, os yw hyn yn dod ar ffurf wahanol fathau o Halen Môn, neu dip tebyg i hummous neu baba ghanoush.

Mae’r rysáit hon, trwy garedigrwydd cogydd Eamon Fullalove, yn hawdd ac yn hwyl i’w gwneud, ac mae’r bara yn siŵr o blesio.

  • 110g blawd bara cryf
  • 110g semolina man
  • Pinsiad o Halen Môn Pur
  • 140g /ml Dŵr oer
  1. Cymysgwch ac yn addasu blawd / dŵr nes bod yr ansawdd yn debyg i does chwarae. Tylinwch am 5 munud, rwbiwch ag olew olewydd.
  2. Gorffwyswch y toes mewn powlen, gorchuddiwch â chling ffilm am ddeng munud.
  3. Torrwch ddarnau maint tanjerîn a rholiwch y toes allan ar arwyneb gwaith â blawd semolina arno. Rholiwch mor denau ag y gallwch, o leiaf mor denau â darn 10c.
  4. Rhowch ar hambwrdd pobi a’u coginio mewn popty poeth, 230 c, am tua 5 munud, nes yn frown euraidd.
  5. Oerwch ar rac weiren, brwsiwch gydag olew olewydd ac ysgeintiad o’ch dewis flas o Halen Môn.
0
Your basket