Panad â…comedian Kiri Pritchard Mclean

by | Maw 2, 2021

 

Yn ogystal â bod yn un o’n hoff gomedïwyr – byddwch yn ei hadnabod o bopeth o Have I Got News For You i The News Quiz – mae Kiri Pritchard Mclean yn adnabyddus am fod yn angerddol am ei hynys enedigol, Ynys Môn, ac am gefnogi busnesau Cymreig annibynnol ym mha bynnag ffordd y gall wneud hynny.

Mae’n cynnal ‘Welsh Wednesdays’ gyda’i ffrind Katie Gill ar Instagram, fel cyfle i siarad am bethau sydd o ddiddordeb iddynt, a gyda’r nod o annog mwy o ddysgwyr i roi cynnig arni drwy rannu’r ochr ‘realistig’ o ddysgu.

Mae hefyd yn cynnal noson gomedi rithiol wych, The Covid Arms, y gall gwylwyr ei gwylio o gysur eu hystafelloedd byw eu hunain. Y mis hwn, bydd y sioe yn serennu Al Murray ac yn fyw o Pontio Bangor. Hyd yn hyn, mae’r gigiau wedi codi dros £120,000 i Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n cefnogi banciau bwyd ledled y DU.

 I ddefnyddio ymadrodd y mae’n ei ddefnyddio am eraill, mae Kiri yn ‘hen hogan iawn’.

Gwyliwch hi yn y Covid Arms neu gwrandewch ar y stand-yp arbennig yma drwy BBC sounds.

 

Rydych yn frwd dros brynu’n lleol a phrynu’n annibynnol. Pam ydych chi’n credu ei fod yn bwysig?

Mae Cymru yn genedl o fusnesau bach, rydym yn arloesol, crefftus a hael ac rwyf wrth fy modd yn cefnogi’r ysbryd entrepreneuraidd hwnnw lle gallaf – ac rwyf wrth fy modd yn prynu pethau i mi fy hun hefyd.

Os ydych yn prynu’n lleol, mae eich arian yn mynd yn ôl i’r gymuned yn syth, nid yw’n mynd i noddfa dreth, pan rydych yn edrych arno felly, rwy’n credu bod prynu’n fach a lleol yn fuddsoddiad a dyna fy esgus dros gael sawl pâr o glustdlysau. 

A oes gennych unrhyw ryseitiau y byddwch yn troi atynt sy’n defnyddio cynnyrch lleol (gan gynnwys halen môn?!)

A yw’n wael dweud mai fy arddull o goginio yw ychwanegu llwyth o halen at bob dim a gobeithio am y gorau? Wel, mae’n wir. Llysiau, ychwanegu ychydig o halen môn garlleg atynt. Mari Waedlyd, halen seleri. Pwdinau – halen môn mwg. Nid yw’n sgil coginio cydnabyddedig ond mae’n gweithio i mi. 

Beth yw’r pethau gorau am ddysgu Cymraeg?

Rwy’n teimlo ei fod yn rhoi dealltwriaeth arbennig i mi o hanes a diwylliant y wlad brydferth hon. 

Mae’n hwyr, rydych yn llwglyd. Beth ydych chi (neu eich partner) yn ei wneud i’w fwyta?

Brechdan selsig, nid yw byth yn siomi. 

0
Your basket