Pastai ffilo popeth

by | Gor 14, 2022

INGREDIENTS

 

    • 600g sbigoglys, wedi’i olchi

    • 2 llwy de o halen môr pur

    • 3 llwy fwrdd o olew olewydd

    • 2 nionyn, wedi’u sleisio’n fân

    • 4 sibolsyn, wedi’u sleisio’n fân

    • Llond llaw o berlysiau meddal (dil, mintys, persli neu gymysgedd), wedi’u torri’n fân

    • 200g ffeta, wedi’i ddraenio

    • 259g ricotta, wedi’i ddraenio

    • ½ lemwn, croen

    • ½ llwy de o nytmeg

    • 270g crwst ffilo

    • 1 llwy fwrdd dda o Popeth

Mae ein sesnad Popeth newydd sbon yn ychwanegu gorffeniad blas mwy i’r bastai hon – crwst crimp gyda chic o wres o’r tsili a blas tostiog o’r sesame. Does dim curo arni.

Dechreuwch drwy roi’r sbigoglys mewn powlen gymysgu fawr, gwasgarwch yr halen drosto a’i adael ar un ochr.

Cynheswch badell fawr dros wres canolig gydag 1 llwy fwrdd o olew olewydd (cadwch y gweddill ar gyfer rhoi’r bastai at ei gilydd) a ffriwch y nionod am 10 munud neu nes eu bod yn feddal. Gadewch iddo oeri.

Cynheswch y popty i 200C/ nwy 6

Yn ôl at y sbigoglys, defnyddiwch eich dwylo i wasgu’r dail (efallai y bydd angen i chi wneud hyn mewn sypiau) ac yna gan ddefnyddio colandr gwasgwch y sbigoglys yn dynn gyda’ch dwylo i gael gwared ag unrhyw hylif. Wrth i chi weithio drwy’r sbigoglys cadwch y colandr yno i annog unrhyw ddiferion olaf o leithder i ddraenio. Rhowch y sbigoglys gwasgedig mewn powlen sych arall a malwch y ffeta ynddi, ychwanegwch y ricotta, yr wy, y nionod wedi’u coginio, sibols, perlysiau wedi’u torri, croen lemwn, nytmeg a’u cymysgu’n dda.

Brwsiwch ddysgl bobi gydag olew olewydd, yna ychwanegwch haenen o ffilo, brwsiwch gydag olew a gwnewch hyn eto nes bod gennych 3 haenen o ffilo ar waelod y ddysgl. Arllwyswch y llenwad sbigoglys arno a’i wasgaru. Yna gwnewch yr un fath eto ar ei phen gyda’r haenau ffilo ac olew, ceisiwch gael 3-4 haen ar ben y bastai. Dylai hyn ddefnyddio gweddill y crwst, yn dibynnu ar frand y ffilo sydd gennych. Brwsiwch wyneb y bastai ag olew cyn gwasgaru’r sesnad Popeth drosto. Torrwch yn dafelli gyda chyllell finiog (oddeutu 8 tafell fel arfer ond mae’n dibynnu ar faint eich dysgl) a’i phobi am 40 munud neu nes ei bod yn euraidd ac yn grimp ar yr wyneb.

Gadewch y bastai i orffwys am 20 munud er mwyn ei gwneud yn haws i’w gweini. Mae hi hefyd yn hynod flasus wedi’i gweini’n oer y diwrnod canlynol.

0
Your basket