Tydi Nom Nom yn llythrennol ddim yn medru gwneud siocled yn ddigon cyflym. Mae’r cymysgedd o sgwariau sgleiniog o’r stwff melys, cynhwysion lleol blasus, papur brown hen-ffasiwn, a thîm ifanc yn llawn ynni yn un hawdd ei wrthod. Sefydlodd Liam y cwmni yng nghanolbarth Cymru yn ddim ond 18 oed, a chael gwynt o dan ei adain diolch i fenthyciad gan Ymddiriedolaeth y Tywysog. Wnaethom ni drio ei siocled am y tro cyntaf ar ôl derbyn llythyr ganddo yn dweud ei fod yn defnyddio Halen Môn. Mae’r papur crebachlyd dal gennym ni. Ac mae’r gweddill, fel maent yn dweud, wedi creu hanes yn llawn siocled a blas.

Mae Liam mor gynyrfadwy, dyfeisgar a brwdfrydig mae’n heintus, ac mae’n ymroddi i sicrhau fod ei dîm yn teimlo’r un ffordd. Bob tro i ni gyfarfod mae ganddo wên ar ei wyneb, dim ots faint o oriau mae’n pasio yn lapio bariau yn hwyr gyda’r nos er mwyn dal i fyny efo gofynion. Wnaeth y tîm siocled ymweld â Tŷ Halen wythnos ddiwethaf felly wnaethom ni yn fawr o gael siawns i drafod cynhwysion, pentrefi siocled a thrychinebau yn y gegin, ar y traeth (a thynnu ychydig o luniau gwirion, gweler isod).

BETH YW EICH ATGOF CYNTAF O FWYD?

nomnom3Pan roeddwn i lawer mwy ifanc roeddem yn byw yn Bournville. Roedd fy llofft yn yr atig a pan bynnag roeddwn i yn agor y ffenestr byddai arogl siocled yn dod i mewn a llenwi’r ystafell. Roedd y pentref cyfan yn arogli o siocled.

Mae gen i dipyn o atgofion gwych efo fy nhaid hefyd. Roeddwn i’n arfer bod yn ofnadwy o ffyslyd, ond roedd ei gawl cartref yn un o’r pethau prin fyddwn i’n ei fwyta yn ddi-ffael.

DISGRIFIWCH GYMRU MEWN PUM GAIR

Antur, chwilfrydedd, hud, (bod yn) benderfynol, creadigrwydd. Mae Cymru yn le arbennig i fyw ynddo.

BETH OEDD EICH SWYDD GYNTAF?

Wnes i fyth yn rhy dda yn yr ysgol, Pan roeddwn yn bymtheg oed roeddwn i’n arfer troi i fyny i gofrestru, wedyn sleifio i ffwrdd i “gastropub” The Old Red Cow, lle roeddwn i’n arfer gweithio yn y gegin. Wnes i sylweddoli yn fuan fy mod i’n cael mwy allan o’r gegin na’r ysgol, a wnes i sefydlu bwyty “Pop-Up” pan roeddwn yn 16 oed.

BETH YW’CH 3 HOFF GYNHWYSYN?

Mayo mwstard, Halen Môn trwy fwg derw, a bara surdoes gwych

BETH YW’R TRYCHINEB GWAETHAF I CHI GAEL YN Y GEGIN?

Pan roeddwn i’n rhedeg y “pop-up” roeddem yn arbrofi efo cyfuniadau hurt. Dwi’n meddwl fod hyn tua’r adeg wnaeth fy mam roi copi o lyfr coginio The Fat Duck i mi fel anrheg Nadolig, a ro’n i wedi gwirioni efo fo. Wnes i mousse persli a banana roedd yn arfer bod yn wych un noson, a ffiaidd y tro nesaf i mi ei wneud. Wnes i hefyd drio mwstard efo siocled gwyn a siocled efo panasen a betys. Wnaeth gwesteion ei boeri allan

SUT YDYCH YN DEWIS MATHAU NEWYDD O SIOCLED?

Rydym ni’n gwneud siocled ar gyfer ein hunain gymaint ag i bawb arall. Yn ddiweddar rydym ni wedi cael ychydig o nosweithiau o martinis espresso, felly wnaethom ni feddwl pam ddim ei drio? Mae gen i deimlad fod y bar canlyniadol am werthu yn dda…

BETH SY’N GWNEUD Y GWAHANIAETH RHWNG PLÂT O FWYD DA AC UN ANHYGOEL?

Gonestrwydd y cynhwysion – mae’n rhaid iddynt fod o ansawdd da, ac mae’n rhaid peidio chwarae o gwmpas gormod. Ond mae o hefyd yn gwestiwn o faint ohono’i hyn mae’r cogydd wedi rhoi i mewn i’r plât. Mae bwyd anhygoel yn maethu’r enaid – mae’n cynnwys rhywbeth o’r person sydd wedi ei wneud.

nomnomteam

0
YOUR BASKET
Your basket is emptyRETURN TO SHOP
Calculate Shipping