3 coctel haf Jin Môr - Halen Môn

3 coctel haf Jin Môr

by | Gor 21, 2022

INGREDIENTS

Ynys Môn Eastside

  • 3-4 sleisen o giwcymbr a rhubanau i addurno
  • 3 sbrigyn o fintys, gyda’r dail wedi’u tynnu
  • 60ml Jin Môr
  • 30ml sudd leim ffres
  • 10ml surop siwgr, yn ôl blas
  • Ciwbiau rhew
  • Dŵr soda ar ei ben (dewisol)

 

 Summer strawberry sour

  • 70g mefus ac un i addurno
  • 60ml Jin Môr
  • 20ml sudd lemwn
  • 15ml surop siwgr, yn ôl blas
  • ½ gwyn wy, oddeutu 15ml
  • Ciwbiau rhew
  • 2 ddiferyn o Chwerwon Angostura (dewisol)

 

 Elderflower collins

  • Ciwbiau rhew
  • 60ml Jin Môr
  • 15ml sudd lemwn, stribyn o groen lemwn i addurno
  • 20ml cordial blodau’r ysgaw
  • 100-150ml dŵr soda

1. Ynys Môn Eastside (daw coctel jin yn goctel deheuol pan ychwanegir mintys a chiwcymbr ac yna’n goctel dwyreiniol pan gymysgir y cynhwysion hynny gyda’i gilydd)

Y coctel jin mwyaf adfywiol gyda chiwcymbr oer, mintys a leim – y diweddglo perffaith i ddiwrnod poeth. Ychwanegwch soda i wneud y ddiod hon yn un ychydig hirach os ydych yn dymuno.

Paratowch wydr wedi’i oeri gyda’r addurn o rubanau ciwcymbr, gallech hefyd lithro’r ciwcymbr o amgylch ymyl y gwydr i wella’r blas o’r llymaid cyntaf.

Cymysgwch y sleisys ciwcymbr a’r dail mintys gyda’i gilydd mewn cymysgwr. Unwaith y byddant wedi cael eu pwnio ac yn dechrau torri’n ddarnau ychwanegwch yr holl gynhwysion eraill yn cynnwys y rhew a’u hysgwyd yn dda. Blaswch ac ychwanegwch ragor o surop siwgr yn ôl blas. Hidlwch i mewn i’r gwydr sydd wedi’i baratoi ac ychwanegwch ragor o rew neu yfwch yn syth. Gallwch hefyd roi dŵr soda ar ei ben os ydych yn dymuno.

 

 

2. Summer strawberry sour

Gwedd hafaidd adfywiol i’r coctel sur clasurol, gellir gwneud hyn heb y gwyn wy ond mae’n werth ei drio gan ei fod yn rhoi gwead hufennog i’r ddiod. Gellir defnyddio Aquafaba (dŵr ffacbys) yn lle’r gwyn wy hefyd. Sicrhewch eich bod yn blasu wrth fynd i gael y cydbwysedd melys/sur perffaith ar eich cyfer chi.

Oerwch wydr. Sleisiwch y mefus (gan gadw sleisen i’w haneru ar gyfer addurno a’u rhoi mewn gwydr mawr neu gymysgwr gyda’r Jin, sudd lemwn a’r surop siwgr. Cymysgwch gyda’i gilydd. Ychwanegwch y gwyn wy a’i ysgwyd yn dda, mae angen creu digonedd o ewyn. Ysgwyd yr wy cyn ychwanegu’r rhew yw’r ffordd orau o wneud hyn. Blaswch i weld a oes angen rhagor o surop siwgr (mae’n dibynnu ar felysrwydd eich mefus ond dylai 15ml fod yn ddigonol). Rhowch rew yn y cymysgwr a’i ysgwyd eto cyn ei hidlo i mewn i’r gwydr. Rhowch fefus ar ei ben i addurno a thua dau ddiferyn o’r chwerwon os oes gennych chi rai.

 

 

3. Elderflower collins

Tom Collins clasurol gyda chordial blodau’r ysgaw wedi’i ychwanegu, gan fod blodau’r ysgaw a lemwn yn cyfuno’n berffaith â’i gilydd. Gellir ysgwyd neu droi’r coctel hwn.

Darparwch wydr wedi’i oeri gyda llwyth o rew. Defnyddiwch bliciwr llysiau neu gyllell fechan i dorri stribyn o groen lemwn (gan geisio cadw’n bennaf at y darn melyn). Trowch y stribyn lemwn o amgylch eich bys i ffurfio cyrlen, neu gallwch ddefnyddio ffon goctel os oes gennych chi un i’w gadw yn ei le. Rhowch y Jin, sudd lemwn a’r cordial blodau’r ysgaw yn y gwydr, a rhowch ddŵr soda ar ei ben. Trowch yn ofalus cyn ychwanegu’r gyrlen lemwn i addurno.

 

Image + recipes: Elly Kemp

0
Your basket