100% Halen Môn - Halen Môn

Yng ngoleuni’r sylw diweddar yn y wasg ynghylch halwynau môr Prydeinig eraill, ac mewn ymateb i’r ymholiadau niferus a gawsom, rydym yn awyddus i ddweud unwaith eto sut rydym yn gwneud ein halen môr arobryn.

Mae Halen Môn yn cael ei wneud 100% o ddŵr môr pur a dynnwyd o’r moroedd o amgylch Ynys Môn a dim byd arall o gwbl. I fod hyd yn oed yn fwy penodol, rydym yn cael ein dŵr môr o ardal ddynodedig y Fenai yn unol â’n statws Tarddiad Gwarchodedig (PDO), a osodir gan gomisiwn annibynnol yr UE.

Rydym yn anghytuno’n gryf ei bod yn ‘arferol yn y diwydiant’ i hadu halen môr gyda halen o ffynonellau eraill.

Nid ydym byth wedi ychwanegu halen o unrhyw le arall ac nid ydym byth am wneud hynny.

Nid yn awr, nid byth.

Halen Môn yw’r unig halen môr PDO ym Mhrydain. Mae’r dynodid Gwarchodedig yn ardystio ac yn warant annibynnol bod popeth a wnawn yn ddiledryw ac yn onest. Mae ein pecynnu yn cario’r un logo â Champagne a Ham Parma oherwydd sut a ble mae ein halen môr yn cael ei wneud.

Rydym yn hynod falch o’r ffordd yr ydym yn gwneud ein cynnyrch a sut yr ydym yn gwneud busnes , ac yn ddiweddar enillodd y busnes Gwobr y Frenhines ar gyfer cynaliadwyedd ac arferion busnes da i gydnabod ein hymrwymiad i’n staff, lleoliad a gweithrediadau.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynghylch y ffordd yr ydym yn gwneud ein cynnyrch, neu os hoffech mwy o wybodaeth am Halen Môn, os gwelwch yn dda cysylltwch â jess@halenmon.com a fydd yn falch o helpu.

0
Your basket