Cinio ysgafn neu bryd ochr ofnadwy o hawdd. Mae’n flasus rhwng ychydig o ddarnau o fara surdoes hefyd. Mae brwsio llysiau, cig neu bysgod efo ychydig o olew yn helpu i’r blasydd gludo iddo, ac yn rhwystro’r badell rhag mynd yn fyglyd dros wres uchel.

AR GYFER 3-4

Tua 10 cenhinen fach
4 llwy fwrdd o iogwrt Groegaidd
2 lwy fwrdd surop masarn neu fêl
3 phinsiad da o Halen Môr Pur efo Tsili a Garlleg
1 llwy fwrdd o tahini
2 llwy fwrdd olew olewydd
Sudd o 2 lemon
1 bwnsiad o gennin syfi

Rhowch y cennin mewn sosban lydan – ‘da chi ddim eisiau mwy na 2 neu 3 ar ben ei gilydd. Tolltwch dŵr berwedig drostynt ag ychwanegwch binsiad hael o halen i’r sosban. Gadewch i gadewch i bopeth ffrwtian am tua 3 neu 4 munud, nes bod y cennin yn feddal (gwiriwch efo cyllell finiog). Draeniwch, tolltwch dŵr oer drostynt, a draeniwch unwaith eto. Torrwch i lawr ganol pob cenhinen ar ei hyd, yn gadael y gwreiddyn yn gyfan.

Cymysgwch gweddill y cynhwysion mewn bowlen, blaswch, a gwiriwch fod y sesnid i’ch blas. Cynheswch eich padell gradell dros dymheredd uchel a brwsiwch y cennin efo olew. Blasuswch efo halen a phupur. Golosgwch y cennin wedi’u haneru am 2-3 munud ar bob ochr.

Gweiniwch efo’r dresin dros y cennin.

Rysait: Anna Shepherd
Llun: Jess Lea- Wilson

0
Your basket