Mae Jeremy o Paxton a Whitfield (arlwywyr caws i’r frenhines) yn ffrind a chogydd da dros ben, a dyna pam mae croeso iddo aros gyda ni ar unrhyw adeg. Y cinio gorau a baratôdd i ni yn ddiweddar oedd un syml iawn sef caws aeddfed, meddal wedi pobi, gyda chennin a nionod wedi’u carameleiddio, wedi’u weini gyda thomatos wedi’u rhostio gyda thoc o surdoes. Moethus a blasus.

Digon i 4-6
2 nionyn melyn, wedi chwarteru
3 cenhinen, wedi sleisio yn fras
finegr balsamaidd
Olew olewydd
2 Caws Rhyd y Delyn cyfan (neu Camembert os nad ydych yn ddigon ffodus i gael gafael arno)
Tua 10 tomato bach ar y winwydden
Pinsiad o Halen Môn Pur gyda Seleri
Bara surdoes

Cynheswch y popty i 200C.
Rhowch y nionod, cennin a sblash o olew olewydd a finegr balsamig i mewn i’r hambwrdd rhostio, blasuswch yn dda a’i roi yn y popty.
Ar ôl tua 15 munud, dylai’r llysiau dechrau carameleiddio. Ychwanegwch y caws a’r tomatos ar eu pen, gydag ychydig o halen seleri, a dychwelyd  i’r popty am 20 munud arall neu nes bod y caws yn feddal braf.
Gweinwch gyda bara crystiog ac yn ddelfrydol gwydraid o rywbeth blasus.

0
Your basket