‘Rhaid i chi fod yn feistr ar y pysgodyn,’ meddai Roger Williams, ein hathro a’n cogydd uchel ei barch, wrth ddal y penfras ifanc yn gadarn a thorri ei esgyll.

Mae deg ohonom o gwmpas y bwrdd yng Nghanolfan Dechnoleg Coleg Menai yn ymestyn ymlaen i wylio’r broses gyda rhwyd am ein gwalltiau neu farf. Rydym wedi dod yma i ddysgu – nid yn unig y broses o drin pysgodyn cyfan i wneud cacenni pysgod euraidd – ond hefyd pam fod angen i ni fel ynys, a gwlad, ac yn wir, fel byd barchu ein diwydiannau pysgota’n well.

Trefnwyd y diwrnod gan Grŵp Gweithredu Pysgodfeydd Lleol (FLAG) Ynys Môn a Gwynedd, fel rhan o’u hymdrech i gefnogi’r diwydiant pysgota a’r cymunedau cysylltiedig, trwy godi ymwybyddiaeth ynglŷn â pha mor flasus a maethlon yw pysgod, a’r gwahanol ffyrdd o’u coginio. Hefyd i godi ymwybyddiaeth a rhoi sylw i faterion cynaliadwyedd.

Mae’n rhan o gynllun ag iddo dair rhan yn Ynys Môn a Gwynedd. Mae’r ddwy ran gyntaf yn cynnwys ymweliadau ag ysgolion i ennyn diddordeb plant o oedran ifanc mewn bwyd môr yn eu hardal, a rhannu talebau i gael bwyd môr am ddim. Mae’r drydedd rhan yn cynnwys y digwyddiad heddiw. Mae pawb yma wedi ei ddewis i fod yn ‘Llysgenhadon Bwyd Môr’ yng Ngogledd Cymru – eu gwaith fydd cofio’r hyn y maen nhw wedi ei ddysgu a’i rannu gyda ffrindiau a theulu, trwy gynnal swper bwyd môr, coginio ryseitiau diddorol, a chodi’r pwnc bwyd môr lleol wrth sgwrsio yn y gymuned.

Mae’r diwrnod yn dechrau gyda sgwrs gan Dr Dylan Evans, biolegydd morol lleol, uchel ei barch. Mae’n dechrau trwy ofyn pam ein bod yn fodlon gofyn am ‘sglodion a physgodyn’ mewn bwyty, ond fyddem ni byth yn gofyn am rywbeth mor gyffredinol â ‘sglodion a chig’. Mae nifer o rywogaethau pysgod bwytadwy ar arfordir Môn, meddai, ac mae’n bryd i ni ddechrau dod i adnabod ein moroedd a dysgu’r gwahaniaeth rhwng rhai ohonyn nhw.

Yna mae Dylan yn pwysleisio angen i ni amrywio’r pysgod yr ydym yn eu bwyta, a pheidio â chadw at y rhai y mae cymdeithas yn ystyried yw’r rhai ‘cyffredin’. Mae dulliau pysgota heddiw’n golygu bod miloedd o dunelli o bysgod marw’n cael eu taflu os nad ydyn nhw’n cyfateb i’r rhywogaethau y bwriadwyd eu dal wrth fynd â’r cwch allan. (I gael mwy o wybodaeth am hyn, mae’n werth gwylio cyfres hynod o boblogaidd Hugh’s Fish Fight, sy’n rhoi golwg gynhwysfawr iawn ar rai o ddulliau pysgota presennol y byd). Mae Dylan yn pwysleisio’r angen i ni ddechrau meddwl am y pysgod hyn sy’n cael eu taflu fel ffynhonnell fwyd yn hytrach na gwastraff.

dyland

Mae’n trafod cregyn gleision gan ddweud eu bod yn fwyd cynaliadwy, blasus, uchel mewn protein ar ein glannau lleol, ac mae’r ffaith bod y llanw’n newid yn gyson yn y Fenai’n golygu bod y rhain ymysg y cregyn gleision glanaf sydd i’w cael.

Ar ôl awr hynod o ddiddorol gan Dylan, mae pawb yn gwisgo ffedogau glas llachar ac yn gorchuddio ein hesgidiau cyn anelu tua’r gegin. Mae Roger a Denise, ein cogyddion yn disgrifio’r pysgod sydd ganddyn nhw, o benfras ifanc i ddraenog y môr, cimwch i gregyn bylchog, y cyfan wedi eu dal yn lleol, heblaw am y lleden sy’n anos cael gafael arni ar yr ynys. Mae Roger yn dechrau gyda phwyntiau sylfaenol, gan gyfeirio at bum peth y dylen ni chwilio amdanynt i sicrhau bod y pysgodyn yn ffres:

smell

  • Mymryn o arogl y môr – yn sicr nid arogl pysgod cryf
  • Haenen o lysnafedd naturiol
  • Pâr o lygaid bywiog (nid dwl)
  • Os ydych yn tynnu’r esgyll yn ôl yna fe ddylen nhw fynd yn ôl i’w lle’n hawdd
  • Dylai’r corff fod yn gadarn nid yn llipa

Mae’n dangos ei sgiliau deheuig o drin y gyllell ac yna mae’n rhoi cyfle i ni ffiledu a thynnu’r croen, sy’n anos nag y mae’n edrych. Mae’n rhoi cynghorion ynglŷn â sut i baratoi’r pysgodyn:

filleting

  • Defnyddiwch gyllell gyda llafn hyblyg
  • Ceisiwch gadw halen wrth law i chi roi eich bysedd ynddo – mae’n haws cydio yn y pysgodyn
  • Mae esgyrn lledod bob amser yn gwneud gwell isgell
  • I atal y croen rhag rholio, rhiciwch y croen yn groes i’r graen a’i daro gyda chefn y gyllell
  • Golchwch eich dwylo mewn dŵr oer – bydd hyn yn atal y madyllau rhag agor ac felly ni fydd yr arogl pysgod yn treiddio i mewn i’r croen

participants

Erbyn i ni orffen ffiledu ein penfras, mae’r broses wedi codi awydd bwyd arnom ac ymlaen a ni i’w coginio. Mae Denise yn cymryd drosodd. Rydym yn dechrau gyda phryd o gregyn gleision hyfryd – mae’n coginio’r pysgod cregyn lleol gyda chorizo, cennin a seidr i greu pryd blasus sy’n digoni.

roger

Mussels

Rydym yn bwyta’r cregyn gleision wrth i Denise esbonio’r camau syml i wneud swper o Beriw, ceviche draenog y môr. Nid yw’r ffiledi’n cael eu coginio ar gyfer y rysáit hwn ond yn hytrach eu torri’n denau a’u mwydo mewn digonedd o sudd leim, cyn ychwanegu coriander, tshili a phinsiad o Halen Môn.

Mae Denise yn dangos sut i ffrio cregyn bylchog mewn padell, ac mae Roger yn coginio cimwch byw. Yna rydym yn gwledda ar y pysgod cregyn a’r ceviche gyda bara cartref lleol.

scallops

Ar ôl cinio rydym yn mynd yn ôl i’r gegin i ddysgu sut i ffrio ffiledi draenog y môr mewn padell. Mae Denise yn rhoi cynghorion sut i goginio’r pysgodyn yn berffaith bob tro:

  • Defnyddiwch olew heb flas – dydych chi ddim eisiau lladd blas tyner y pysgodyn
  • Defnyddiwch olew poeth iawn – dylai fod yn chwilboeth
  • Er mwyn cael crasu’r croen, sychwch y croen i ddechrau gyda thywel papur, mae hyn hefyd yn ei helpu i’w atal rhag glynu
  • Peidiwch â symud neu droi’r pysgodyn ormod neu bydd yn chwalu
  • Peidiwch â gorlenwi’r badell, mae’n haws gwneud un ar y tro a’i goginio’n iawn

Ein pryd olaf yw cacen bysgod ysgafn, wedi ei gwneud â cheirch a gwynnwy yn lle briwsion bara a melynwy. Mae Denise yn esbonio y gallwch chi ddefnyddio pob math o wahanol bysgod i wneud y rhain, mae’n bryd hawdd ei addasu.

Rydym yn gorffen trwy lenwi brithyll gyda ffenigl ac oren, a’i lapio mewn ffoil yn barod i’w stemio yn y popty gartref.

Ar ddiwedd y dydd rydym yn llawn ac yn troi tuag adref gyda digon o fwyd môr i wneud cinio gartref i’n teulu. Hefyd rydym wedi cael cyngor syml ynglŷn â sut y gallwn ni chwarae ein rhan i weithredu camau FLAG:

trout

  • Prynwch yn lleol– oddi wrth bysgotwyr neu o ffynonellau yr ydych yn ymddiried ynddyn nhw. Ceisiwch fwyta rhywbeth sydd heb deithio miloedd o filltiroedd a blaswch y gwahaniaeth, byddwch yn cefnogi eich economi lleol yr un pryd. Peidiwch â phrynu pysgod os nad yw’n dweud o ble maen nhw’n dod.
  • Ehangwch eich gorwelion – peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar bysgod llai cyffredin os byddwch yn eu gweld. Arbrofwch gyda gwahanol brydau a mwynhewch flasau newydd.
  • Gwiriwch gynaliadwyedd – Mae adnoddau ar-lein yn gallu bod o gymorth mawr, e.e. -http://www.fishonline.org/ Ar y peiriant chwilio hwn gallwch fewngofnodi rhywogaeth pysgod a bydd yn dweud wrthych a ddylid ei fwyta ai peidio.

Efallai y byddai’n well gorffen trwy gyfeirio’n ôl at ddechrau’r diwrnod – gyda sgwrs Dylan. Soniodd am gynaliadwyedd fel cyfrifoldeb cymdeithasol. Yng Nghymru, mae ein heconomi’n dibynnu’n fawr ar ein hamgylchedd ac adnoddau naturiol, felly mae’n ddyletswydd ar bawb i’w gwarchod.

Dolenni defnyddiol:

Hugh’s Big Fish Fight

Sw Môr Môn

Gŵyl Bwyd Môr Menai

Cymdeithas Cadwraeth Forol

Os ydych yn awyddus i gymryd rhan a bod yn rhan o’r grŵp nesaf o Lysgenhadon Bwyd Môr e-bostiwch mirain@mentermon.com

Erthygl a ffotograffau: Jess Lea-Wilson

lobster

Last order date for Christmas delivery 20th December in the UK. Dismiss