Ar dy feic (trydan) - Halen Môn

Mae ambell i benwythnos yn ymddangos i fynd ymlaen am byth, a gyda heulwen lachar, awyr clir, a’n beiciau trydan newydd gwych, roedd y penwythnos diwethaf yn un ohonynt.

Mae’r beiciau, sydd ar gael i’w llogi o’n Tŷ Halen yn gyffredin mewn nifer o wledydd Ewrop, ond yn dal yn beth prin yn y DU. Maent yn gyfuniad gwych o’r confensiynol a modern – mae dal angen pedlo, ond ar ôl ychydig o rowndiau, mae’r modur yn cicio i mewn ac mae’n debyg mai rhywun yn eich gwthio ymlaen yn ysgafn iawn. Trowch y trydan i fyny gêr ac mae bryn anodd yn dod yn hawdd, ac unwaith eto, gallwch gyrraedd cyflymder o hyd at 15 m.y.a.

Hyd yn oed ar ôl ychydig o oriau, nid oedd y newydd-deb wedi pallu, wrth i ni wibio heibio cerddwyr, loncwyr a beiciau modur (iawn – wedi parcio rhaid cyfaddef). Peidiwch â phoeni fodd bynnag, os ydych chi’n un o’r rhai diflas sy’n mwynhau ymarfer corff hen-ffasiwn, neu yn un o’r rhai mwy normal sy’n hoffi beicio, ond dim ond ar hyd y gwastad, gallwch y troi’r trydan i ffwrdd n hawdd a throi eich beic i mewn i un gonfensiynol.

Wrth feicio drwy ein gwrychoedd lleol hyfryd, yn llawn clychau’r gog a thegeirianau gwyllt, ac ar hyd glan y môr frith o biod môr. Mae’r holl ‘bron a beicio’ wedi codi syched, felly panad yn Ystafell De Giddy Aunt ac un o’r sgons gorau’r ynys.

Mae’r beiciau ar gael i’w llogi wrth yr hanner diwrnod neu’r diwrnod llawn, ac yn dod gyda digon o bŵer i ddal am hyd at 60 milltir. Mae cymaint o leoedd lleol hyfryd i fynd – ychydig funudau i fyny’r lon am goffi yn Giddy Aunt’s, ymlaen at y Marram Grass am ginio, ac Aberffraw neu Draeth Niwbwrch ar gyfer picnic a theithiau cerdded godidog.

Mae’r beiciau yn golygu y gallwch gyfro lot o dir, a gwneud unrhyw fryn yn ddibwys. Jyst gwnewch yn siŵr eich bod yn gadael digon o amser i ddod yn ôl atom cyn i ni gau!

Yn ogystal â dau feic trydan, mae gennym hefyd un gonfensiynol i’w llogi, ar gyfer y rhai sy’n hoffi pethau’r ffordd hen-ffasiwn.

Mwy o wybodaeth ar brisiau a diogelwch ar gael yn Tŷ Halen neu ar ein tudalen beiciau.

0
Your basket